Hyfforddiant yng Nghymru
Mae pedwar ohonom ni wedi derbyn hyfforddiant i gyflwyno'r cwrs IDEAL Budget Coaching in the Community. Ry'n ni wedi cytuno i roi ein hamser am ddim i grwpiau gwirfoddol yng Nghymru, o ran cyflwyno'r cwrs ei hun a hefyd o ran paratoi deunydd y cwrs a thasgau gweinyddol perthnasol. Pris y cwrs fydd cost y deunydd hyfforddi, ein treuliau ni (er enghraifft teithio a llety pa'n fo hynny'n briodol) ac ry'n ni hefyd yn gofyn am gyfraniad tuag at waith Credit Action Cymru. Felly os oes gennych chi ddiddordeb yn y cwrs dewch i ni gael sgwrs.



















