Prosiectau yng Nghymru
Prosiect Penparcau
Mae Penparcau yn ardal ar gyrion Aberystwyth yng nghanolbarth Cymru. Ardal o dai cymdeithasol yw hi'n bennaf (mae rhai bellach yn eiddo preifat) gydag oddeutu 1,400 o gartrefi. Mae'n ardal Cymunedau yn Gyntaf. Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella amodau byw a rhagolygon pobl sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru.
Yn y rhan fwyaf o adeiladau cyhoeddus, ry'n ni'n arddangos posteri maint A4 i hysbysebu ein gwasanaethau. Ry'n ni hefyd yn dosbarthu Cardiau Busnes gyda manylion cyswllt ar y tu blaen a ‘beth ry'n ni'n gwneud' ar y cefn.
Mae Llawlyfr Ariannol Credit Action ar gael am ddim mewn dau leoliad (gyda rhagor o leoliadau ar y gweill).
Nid oes llawer o fyfyrwyr yn yr ardal hon, felly nid yw'r Llawlyfr Ariannol i Fyfyrwyr ar gael ar ffurf copi caled, fodd bynnag, gellir gofyn am gopi am ddim oddi wrth Credit Action.

Sefydlwyd y prosiect ym mis Mawrth 2009 felly mae'n rhy gynnar i fesur maint y galw ar hyn o bryd. Rhown wybod i chi sut mae pethau'n datblygu mewn rhai misoedd.
Prosiect Aberystwyth
Gobeithiwn gael grwpiau eraill yn Aberystwyth i ddangos diddordeb er mwyn i'r prosiect gael ei ehangu i gynnwys y dref gyfan.
Prosiectau Eraill
Rydyn ni'n siarad gyda grwpiau mewn ardaloedd eraill a byddwn yn adrodd ar ddatblygiadau yn eu tro.



















