Credit Action - Better thinking about money
About us Training Resources Publications Publications Ongoing Projects Press Section Advocacy

Pwy yw Credit Action Cymru

Yr allwedd i sefyllfa ariannol iach yw gwneud yn siŵr bod gwariant ac incwm yn cyd-fynd. Mae'n swnio'n syml, ond mae arian yn aml yn bwnc sy'n peri trafferth i lawer. I helpu pobl gyda hyn, sefydlwyd Credit Action Cymru gan grŵp o Gristnogion yn Aberystwyth a'r nod yw sicrhau bod arweiniad ariannol yn hawdd ei gael yn y gymuned, a hynny am ddim.

Y bwriad gwreiddiol oedd cychwyn prosiect ym Mhenparcau, ardal ddifreintiedig yn Aberystwyth yng nghanolbarth Cymru. Y syniad oedd sicrhau bod gwybodaeth ariannol hunangymorth ar gael am ddim i'r rhai sydd ei hangen. Fodd bynnag, penderfynwyd bod angen gweithio yn ddwyieithog gan ddefnyddio'r iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg. Un o oblygiadau hyn oedd na fyddai cyfieithu'r wybodaeth i'r Gymraeg yn gosteffeithiol ar gyfer y prosiect lleol yn unig; felly penderfynwyd ehangu i weithio ledled Cymru.

Ar y cam hwn gwnaed cysylltiad â Credit Action a oedd yn adnabyddus ac a barchwyd fel elusen addysg ariannol ac roedd Cadeirydd grŵp Cymru wedi cwrdd â Llywydd Credit Action, Keith Tondeur, yn gynharach yn y flwyddyn pan oedd Keith yn siarad mewn cynhadledd. Roedd yn amlwg bod ein nodau a'n hamcanion yn cyd-fynd, bron yn union yr un peth â dweud y gwir, a chytunwyd y byddai'r grŵp yn dod o dan oruchwyliaeth yr elusen ac yn ffurfio cangen Cymru o Credit Action. Mae'r berthynas hon wedi'i nodi mewn memorandwm cyd-ddealltwriaeth.

Bellach mae gan Credit Action Cymru grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi fel Hyfforddwyr Ariannol (yn gweithio yn ardal Penparcau) ac mae pedwar wedi'u hyfforddi i gynnal cwrs IDEAL Budget Coaching in the Community, Credit Action. Mae hyn nawr yn golygu y gall pobl gael eu hyfforddi i fod yn Hyfforddwyr Ariannol ym mhob rhan o Gymru. Mae Credit Action Cymru yn glynu wrth ei hamcan wreiddiol o sicrhau bod gwybodaeth ariannol ar gael i'r gymuned, ond yn ychwanegol at hynny mae'n cynnig help i bobl gyda'u sefyllfa ariannol. Y gobaith yw ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi grwpiau ledled Cymru i gynnal prosiectau tebyg yn eu cymunedau eu hunain.

Os hoffech chi ragor o wyboaeth am y gwasanaethau a gynigwn, neu os oes diddordeb gennych chi mewn helpu eraill a gwneud gwaith yn y gymuned, ffoniwch 0800 242 5844 neu anfonwch e-bost at cymru@creditaction.org.uk.